Ty Adar | 28th May – 10th July 2021

Lucy Anna Howson | Abby Poulson | Dili Pitt | Katie Trick | Lily Ella Westacott

Pump Artist Addawol o Stiwdios Elysium yn Cydweithio yn eu Sioe Grŵp Cyntaf.

Bird House/ Tŷ Adar yw hunaniaeth gydweithredol pum artist benywaidd ifanc sy’n gweithio gyda phaent, ffotograffiaeth, arlunio a cherflunwaith a gafodd eu hunain yn annisgwyl yn stiwdios oriel elysium yn ystod y pandemig. Mae’r arddangosfa hon yn ceisio rhannu darganfyddiadau a phrosesau unigol, wrth iddynt ymnythu’n ddyfnach a chryfhau yn eu hymarfer a chasglu ysbrydoliaeth o ofodau a phrofiadau newydd, o fewn yr olygfa ddomestig a’r amgylchedd naturiol.

Wrth ymateb i’r tirweddau o’i chwmpas, mae’r artist o Dde Cymru, Katie Trick, yn dechrau gyda syniadau annelwig o le a phwnc. Yn paru lleoedd â delweddaeth, patrwm a lliw a ddarganfuwyd, mae hi’n defnyddio arsylwi a dychymyg i ddod o hyd i ffyrdd i ogoneddu tirwedd sy’n ambell dro’n anghyffrous trwy greu tirweddau anghyraeddadwy y mae’n hiraethu amdanynt.

Wrth adlewyrchu ei hamgylchedd domestig, mae Lucy Anna Howson yn darlunio sylwebaeth fodern o fywyd bob dydd trwy baentio a gwneud gwrthrychau. Yn dathlu’r olygfa ddomestig, mae hi’n credu bod edrych ar ofodau byw pobl yn caniatáu inni weld hunaniaethau unigol a dylanwadau diwylliannol a gwleidyddol ei chyfnod, tra hefyd yn bersonol yn archwilio effeithiau ein hamgylchedd ar les.

Mae paentiadau’r artist amlddisgyblaethol o Abertawe, Lily Ella Westacott, nid yn unig yn archwilio ei hamgylchoedd, ond hefyd ei hun, wrth iddi dynnu ar egni cysegredig a geometreg, sydd nid yn unig yn bodoli yn y byd corfforol, ond yn ddwfn yn nyfnderoedd yr enaid. Mae ei gweithiau’n ffurfio siapiau a diagramau sy’n creu iaith eu hunain, yn barod i’w dehongli gan y gwyliwr.

Gan gymryd seibiant o astudiaethau, mae ymarfer cerfluniol Dili Pitt yn archwilio gwneuthuriad fel alltudiad corfforol o bryderon personol a diwylliannol. Mae ei ffigurau swrrealaidd yn gweithredu bron fel doliau pryder cyfoes, fel amlygiadau corfforedig o gyflwr meddwl gor-feddwl a gor-orlawn. Gan gymryd ysbrydoliaeth o ddamcaniaeth y dyffryn rhyfedd (uncanny valley), mae Pitt yn archwilio syniadau o ymddangosiad, presenoldeb a’r ffigurol yn ei gwaith. Mae ei chyrff pryderus yn iasoer yn eu darlun annifyr o isymwybod diwylliant pop, ac ar yr un pryd yn galonogol yn eu hymddangosiad comedig a chyfarwydd.

Wrth ddarganfod tirweddau newydd yn ei hamgylchedd uniongyrchol, mae’r artist o Sir Gaerfyrddin, Abby Poulson, yn aml yn defnyddio ei phroses ffotograffig yn eang ac yn arbrofol i archwilio syniadau o amgylch ei mamwlad wledig, tra hefyd yn ymateb i hunaniaeth Gymraeg, pryderon amgylcheddol, cof a lle. Mae ei gweithiau mwy diweddar yn ymchwilio safleoedd lleol gyda gweithgaredd diwydiannol blaenorol, wrth iddi fyfyrio ar herio’r amgylcheddau hyn yn y tir, yn gorfforol ac yn fewnsyllgar.

Instagram – @birdhouseswansea.