Ymweliad

Dewch o hyd i ni yn:

Oriel Elysium, 12-24 Belle Vue Way, Abertawe SA1 5BY

Rydym wedi’n lleoli yng nghanol Canol Dinas Abertawe, llai na 5 munud o gerdded o Orsaf Drenau Abertawe. Rydym yn gartref i oriel gelf gyfoes, caffi, a chymuned o stiwdios artistiaid.

Oriau agor

Oriel a chaffi ar agor o ddydd Mercher i ddydd Sadwrn 11yb – 5yh

Rydym ar agor o bryd i’w gilydd ar ddiwrnodau ac amseroedd eraill ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau – gwiriwch y rhaglen am ragor o wybodaeth.

Parcio

Nid oes cyfleuster parcio ar y safle, ond mae dau faes parcio aml-lawr cyhoeddus gerllaw ar y Stryd Fawr (High Street) (wrth ymyl yr Orsaf Drenau) ac ar Stryd y Berllan (Orchard Street) wrth ymyl yr oriel.

Hygyrchedd

Mae Elysium yn cynnig amrywiaeth o gyfleusterau ar gyfer mynychwyr anabl:

Mae mynediad cadair olwyn i’r adeilad trwy fynedfa ein Caffi ar Belle Vue Way. Mae mynediad cadair olwyn i bob rhan o’r adeilad.

Caniateir cŵn cymorth.

Mae cyfleusterau toiled hygyrch ledled yr adeilad gan gynnwys toiledau rhyw niwtral a chyfleusterau cawod i’n cwsmeriaid anabl ar y llawr gwaelod.

Newid Arddangosfeydd

Sylwch fod yr oriel ar gau yn ystod cyfnodau newid arddangosfeydd. Gweler y dudalen Arddangosfeydd am ddyddiadau neu cysylltwch â’r oriel os ydych yn ansicr a ddylech deithio.

Fel arfer bydd y Caffi yn aros ar agor yn ystod cyfnodau newid.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

e-bost: info@elysiumgallery.com