Celf yn y Bar: Art Unlocked
Celf a llenyddiaeth gan y rhai o fewn y System Cyfiawnder Troseddol
02/02/24 – 23/03/24
Mae CEM Abertawe a gwasanaeth prawf Cymru yn cyflwyno arddangosfa o gelf a llenyddiaeth a luniwyd gan ddwylo’r rhai rydym yn eu cefnogi.
Mae’r strategaeth Ymgysylltu â Phobl ar Brawf (YPAB) (Engaging People on Probation/ EPOP) yn rhaglen a weithredir gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn y DU sy’n ceisio lleihau cyfraddau aildroseddu a gwella adsefydlu ymhlith pobl sy’n gwneud dedfrydau cymunedol a’r rhai sy’n cael eu rhyddhau o’r carchar ar brawf.
Un o’r egwyddorion allweddol yw gwrando ar lais ein defnyddwyr gwasanaeth.
Mae’r arddangosfa hon wedi codi o un o’r fforymau YPAB rydym yn eu rhedeg yn Abertawe, lle mae Pobl ar brawf a oedd yn teimlo y byddent yn hoffi mynegi eu barn a’u teimladau mewn fformat gwahanol i’r amgylchedd ffurfiol.
Mae pobl yn y carchar wedi trafod sut mae Celf/Cerddi yn rhoi lle diogel iddynt rannu eu negeseuon, a gweld celf fel strategaeth i gefnogi eu hiechyd meddwl ac adsefydlu, yn ogystal â chael eu gweld fel bodau dynol. Roeddem am weld a allem fynd â’r negeseuon hyn allan o’r SCT, i’r cyhoedd.
Rydym am i bobl yn ein gofal, sy’n aml yn cael eu hallgáu o gymdeithas, deimlo bod rhywun yn gwrando arnynt ac yn eu deall yn y fformat a’r iaith sy’n addas iddyn nhw.
Gareth Richards
Ymgysylltu â Phobl ar Brawf (YPAB)
Rheolwr Rhanbarth Cymru