Celf yn y Bar: Louise Burston

Celf yn y Bar:

Louise Burston

I lawr y cyntedd na chymerom at y drws nag agorom fyth.

Fel rhan o Beintio Dwyflynyddol Beep eleni, mae Louise Burston yn cyflwyno corff newydd o beintiadau ar gyfer yr arddangosfa gelf ddiweddaraf yn y bar yn oriel elysium.

Fel mannau cychwyn ar gyfer peintiadau mae Louise Burston yn gweithio o amrywiaeth o ddeunydd ffynhonnell fel toriadau papur newydd, eBay, hen ffotograffau, lluniau llonydd teledu a chardiau post. Mae ganddi ddiddordeb yn y syniad o gof gweddilliol a sut mae atgofion gweddilliol yn chwarae allan yn y presennol. Bwriad ei pheintiadau yw cyfleu ymdeimlad o golled sy’n gysylltiedig â lleoedd a gwrthrychau arbennig, ysbryd sy’n gwahodd y gwyliwr i fyfyrio ar dreigl amser a lle cawn ein hunain yn y presennol – breuder a meidroldeb popeth.

Wedi’i geni yng Nghaerdydd, mae Louise Burston bellach yn byw ac yn peintio ym Mhorth Tywyn, Gorllewin Cymru. Mae gwaith Louise wedi cael ei arddangos yn Llundain a ledled y DU ac mae mewn casgliadau cyhoeddus a phreifat. Hyd at 2021 roedd yn ddarlithydd rhan amser mewn arferion cyd-destunol yng Ngholeg Celf Abertawe ac mae wedi dysgu peintio ac arlunio ar bob lefel ers dros 15 mlynedd.