Asiya Clark – Affinedd


Event Details

  • Date:
  • Categories:

Asiya Clark

Affinedd

Rhagolwg: Dydd Sadwrn 20 Mai 7yh

Arddangosfa’n parhau tan Ddydd Sadwrn 8 Gorffennaf

Oriel ar agor Dydd Merch – Sad 11yb-9yh

Mae gwaith Asiya Clarke yn ymwneud â cholli a chanfod eich hun ym myd natur. Gan gysylltu bydoedd mewnol ac allanol mae hi’n ceisio dod o hyd i arwyddion a throsiadau sy’n ymestyn o’r penodol i’r cyffredinol.

Mae ei gwaith wedi’i adeiladu o ffotograffau o fyd natur, rhai ohonynt yn cael eu defnyddio’n uniongyrchol fel deunydd ffynhonnell ar gyfer peintiadau. Mae eraill yn mynd trwy broses o ludweithio. Mae cyflwyno delweddaeth ffigurol yn y gludweithiau yn awgrymu presenoldeb dynol ac yn dod yn sylwebaeth chwareus ar gyflyrau ac amodau seicolegol ac ysbrydol.

Affinedd

Y gwythiennau yn fy nghorff
Yw’r gwythiennau yn y dail
Mae pob dot a chylch yn llygad, yn ymwybyddiaeth

Mae pob aderyn sy’n codi
Yn codi yn fy mrest
Adenydd yn curo yn erbyn f’asennau

Llai na smotyn o lwch
Myfi yw’r ddaear eang
Mae f’anadl yn sgubo dros anialwch
Yn troelli mewn pantiau

Mae’n codi dros fynyddoedd
I ryddhau fy chwys a dagrau
Mae pob diferyn wedi’i rifo

Marwolaeth yw pob clwyf
Pob poen yn enedigaeth
Mae afonydd coch yn cario bywyd i’m horganau
Pob cell yn llawenhau

Cysawd yr haul yw fy nawns
Wedi’i gofleidio gan gariad

Magwyd Asiya Clarke ar fferm yn Zimbabwe. Yr amgylchedd naturiol hardd a brofodd yn blentyn yw un o’r prif ysbrydoliaethau yn ei gwaith. Astudiodd Gelfyddyd Gain ym Mhrifysgol Cape Town, De Affrica cyn symud i’r DU a dysgu yn St. Albans. Astudiodd Asiya MA ymarfer celfyddydol yng Ngholeg Goldsmiths, Llundain yn 2008 a chafodd ei dewis ar gyfer arddangosfa Saatchi4 New Sensations. Ar hyn o bryd mae hi’n peintio o’i stiwdio oriel elysium yng nghanol Dinas Abertawe.

www.asiyaclarke.org

Instagram:@clarkeasiya