Celf yn yr Bar – Erin Hughes: Where We Are


Event Details

  • Date:
  • Categories:

Mae Where We Are yn gydweithrediad sonig a gweledol trochol rhwng yr artist Erin Hughes a Phedwarawd Will Barnes, sy’n datblygu ledled Cymru mewn cyfres o sioeau byw deinamig. Mae’r prosiect amlochrog hwn yn ymestyn y tu hwnt i’r llwyfan i gyflwyno’r arddangosfa deithiol hon, gan arddangos collage papur marmor gwreiddiol Erin a ysbrydolwyd gan albwm jazz diweddaraf y Pedwarawd, “Source of the Severn”. Mae pob cyfansoddiad yn tynnu ysbrydoliaeth o dirwedd hudolus Canolbarth Cymru a rhanbarthau’r gororau, wedi’i ddehongli’n weledol gan Erin mewn collages bywiog. Gwahoddir cynulleidfaoedd ar daith amlsynhwyraidd trwy fryniau hudolus Maldwyn, gyda chlustffonau ar gyfer cysylltiad agos â’r gerddoriaeth.

Ymunwch â ni am berfformiad byw ar y 26ain o Ionawr lle bydd Pedwarawd Will Barnes (Will Barnes -gitâr; James Batten – drymiau; Jack Gonsalez – piano; Clovis Phillips – bas) yn cyflwyno eu halbwm newydd “Source of the Severn” ar y cyd âg Erin Hughes. Mae’r albwm hwn o gerddoriaeth wreiddiol yn olwg fodern ar y cyfnod bebop clasurol gyda dylanwadau Wes Montgomery, Bill Evans, Pat Metheny ac Oscar Peterson. Bydd Erin yn perfformio delweddau byw o effeithiau golau hylif marmor a delweddau llonydd o weithiau celf, gan addo profiad trawiadol i’r gynulleidfa.