Marchnad Eco Celf a Chrefft


Event Details


Marchnad Eco Celf a Chrefft
Dydd Sadwrn Ebrill 8fed
11yb-5yp
Sylw: Artistiaid, Dylunwyr a Gwneuthurwyr

Ym mis Ebrill 2023 bydd elysium yn cynnal Marchnad eco Celf a Chrefft yn
eu lleoliad ar Stryd Fawr Abertawe.
Rydym yn chwilio am artistiaid, dylunwyr a gwneuthurwyr sy’n creu celf
eco-ymwybodol. Felly, os ydych chi’n uwchgylchu ac yn ailgylchu eitemau
yn greadigol neu’n gwneud gwaith sy’n mynd i’r afael â materion
amgylcheddol, yna byddwn wrth ein bodd yn clywed gennych.
Mae’r gofodau sydd ar gael tua 20×6 troedfedd.
Bydd tâl o £15 y gofod.
Ni chodir comisiwn ar ddeiliaid stondinau sy’n dod â’u peiriannau
cerdyn eu hunain neu’n derbyn taliadau arian parod am eitemau a werthir.

Gellir gwneud taliadau drwy ein system gardiau ond codir tâl o 10% am
hwn.
Os hoffech wneud cais, anfonwch e-bost at info@elysiumgallery.com gydag
uchafswm o 4 delwedd JPEG/ neu ddolen i ddelweddau a disgrifiad o’r hyn
yr hoffech ei wneud ar y diwrnod.
Mae croeso i chi ofyn unrhyw gwestiynau.
Bydd y Farchnad Eco yn rhedeg ochr yn ochr â’n harddangosfa SGIP: Eco
Visions sy’n arddangos dulliau cynaliadwy o wneud celf.