Neil ap Cymru- Y Mudiad Celf Newydd ‘Dadblygaid’: ‘Eiconau y Fam Ddaear’


Event Details

  • Date:
  • Categories:

Teitl: Y Mudiad Celf Newydd ‘Dadblygaid’: ‘Eiconau y Fam Ddaear’ 

Artist: Neil ap Cymru 

Dyddiadau: Ebrill 4 – 17 

‘Eiconau y Fam Ddaear’ trwy ‘Dadblygiad’ 

Yr eicon gelf o Urddas 

‘Eiconau o’r Fam Ddaear’ yw arddangosfa gyntaf y Mudiad Celf Ddiwylliannol Newydd, ‘Dadblygaid (Evolvicism), sydd yn cydredeg â mudiad gwrth-ddiwylliant ‘Cymru-In’, a ysbrydolwyd gan ‘Sit-in’ 1960, ‘Teach-In’ 1965 a ‘Be-In’ 1967. 

Mae ‘Dadblygaid’ yn estyn allan at holl artistiaid gwledydd nad ydynt yn annibynnol ac a orthrymwyd, i edrych yn ôl ar eu hanes er mwyn ail-eni ac adennill etifeddiaeth gudd, anghofiedig a heb ei darganfod o Gyflawniadau Diwylliannol eu Cenedl a’u Harwyr. 

Nod Eiconau Cymru yw ysbrydoli ‘Urddas Diwylliannol Cyfrifol’ i’n bywydau a Chenedlaethau’r dyfodol trwy anrhydeddu’r arwyr a’r arwresau diwylliannol hynny i rymuso, goleuo, dathlu ac ysbrydoli Urddas Annibyniaeth ein Cenedl. 

Mae’r mudiad Cymru-in yn rhagweld defnyddioldeb gwybodaeth hirhoedlog pob gwlad i roi cychwyn newydd, o bosib, ar eirfa ein cenedl a dathlu ein llwyddiannau. 

Mae’r arddangosfa hon yn dathlu Hunaniaeth hanesyddol Cymru mewn ‘Cariad a Heddwch’, mewn ‘Undod Brawd a Chwaeroliaeth’ mewn Cymuned-Byd Ehangach’. 

Bio 

Neil ap Cymru yw Addysgwr-Cosmopolitaidd-Ddiwylliannol cyntaf Cymru ac mae wedi cynnig ei wasanaeth yn wirfoddol i brosiectau blaengar, addysgol a diwylliannol ar ‘Eiconau Cymru’. Dychwelodd i ‘Wlad ei Famau a’i Dadau’ yn 2000 er mwyn sefydlu prosiectau diwylliannol goleuol a moesegol ar gyfer ieuenctid heddiw a phlant yfory trwy gyfrwng ‘Prosiect Mawrion Cymru’. Mae wedi galw am weithredu eiconograffeg Cymry ar raddfa gyfan yn y system addysg ac aeth ymlaen i gyfrannu at syniadau hanesyddol a hunaniaeth blaengar i BBC Cymru, HTV, S4C a Radio BBC Cymru. 

Ar hyn o bryd mae’n ysgrifennu cyfres o lyfrau ar gyfer Cymry ifanc a hefyd yn sefydlu’r Mudiad ‘Cymric-In’ ar gyfer holl greadigwyr, dylunwyr, artistiaid a meddyliau hardd Cymru sy’n ymroddedig i ail-eni a darganfod gweledigaethwyr ‘Cymru Byd Eang’ ac sy’n dymuno symleiddio ymhellach eu ‘Cymru-Cyfrifol’ rhyngwladol, llysgenhadol.