Tir Cwiar
Ren Wolfe | Alisha Ahmed | Kamila Krol | Caitlin Flood-Molyneux | Jane Campbell | Vivian Ross-Smith | Morgan Dowdall | Karn John | Luke Blaidd | Skye Kember
07/02/25 – 22/03/25
Rhagolwg Dydd Gwener 7 Chwefror 7yb
Ar agor Dydd Mercher – Dydd Sadwrn 11yb – 7yp
Mae “Tir Cwiar” yn dathlu’r bywiogrwydd a gwytnwch o’r cymuned cwiar yng Nghymru, wedi eu fagu gan y tir a hunaniaeth cyfunol. Trwy perspectif croestoriadol o 10 artist, mae’r arddangosfa’n ymchwilio themau o’r trothwyol, cysylltiad, a pherthyn.
Gyda dull curadurol ar y cyd, mae’r arddangosfa yn maethu deialog awthentig rhwng y darnau celf; symud rhwng profiadau ynysig i creu naratif a rennir. Mae’r gwaith yma’n adlewyrch y dwfnder o bywyd cwiar yng Nghymru, yn cofleidio lleisiau amrywiol – o siaradwyr Cymraeg ac unigolion traws i rhieni, y henoed, a cymunedau mwyafrif byd eang.
Yn defnyddio themâu o tynerwch, “arallfyd”, a rhannu gofod, mae Tir Cwiar yn gwahodd cynudlleidfeudd i archwilio perspectif cwiar a dychymyg cyfunol. Mae’n creu i rhannu pob stori, herio ffiniau ac dychmygu Cymru lle mae hunaniaeth pawb yn cael eu dathlu ac yn anrhydeddus.
Croeso i Tir Cwiar; lle ar gyfer cysylltiad, trawsffurfiad, a pherthyn.
Am yr artistiaid:
Caitlin Flood-Molyneux
Mae Caitlin Flood-Molyneaux yn artist cyfoes arobryn o Gymru. Mae eu harfer artistig yn ymchwilio i’r berthynas rhwng portreadau diwylliant pop a’r ffordd rydym yn cysylltu emosiwn a chof â delweddau ac yn eu defnyddio i adrodd am eu profiadau goddrychol o galedi. Mae’r gwaith yn hynod bersonol ac yn gyffredinol gan ei fod yn nodi eiliadau allweddol o’u bywyd, stori weledol ddirgel a phreifat y mae Flood-Molyneux yn gwahodd y gwyliwr i greu ei gysylltiad ei hun â hi.
Vivian Ross-Smith
Mae Vivian Ross-Smith (hi/ei) yn gwneud paentiadau, perfformiadau a thecstilau i greu lle ar gyfer digwyddiadau a arweinir gan brofiadau.
Yn y gweithiau hyn, mae Vivian yn canolbwyntio ar arferion gofal, gan gynnwys haelioni, dwyochredd a disgwyliadau o orffwys.
Gan ddefnyddio’i phrofiad o weithio fel Gweithiwr Gofal Cymdeithasol, mae’n defnyddio ystum a chyfathrebu distaw i bwysleisio’r defnydd o iaith hydeimledd.
Gan archwilio cnawdolrwydd, codio a materoldeb o safbwynt cwiar, mae’n annog ymateb corfforol i’w gwaith celf drwy gyffyrddiad a chyfranogiad gweithredol.
Karn John
Mae Karn (nhw/hi) yn artist amlddisgyblaethol cwiar, anneuaidd a niwrowahanol sy’n archwilio themâu iechyd, cartref, ecoleg, bod yn cwiar, ysbrydolrwydd, eithrio a pherthyn, drwy gyfarfodydd pwysig aflêr ac elfennaidd â’r byd dynol a’r byd sy’n fwy na dynol.
Mae ymarfer creadigol Kathryn yn amlygu ei hun fel gwneud lliwiau naturiol gyda phlanhigion, pridd a metelau a gafwyd ochr yn ochr â gwaith ar bapur, gosodweithiau sy’n ystyriol o’r safle, ysgrifennu, gwaith testun, perfformiad a chynnal gwagleoedd a mannau ar gyfer chwarae grŵp a deialog.
Morgan Dowdall
Artist gweledol o Gaerdydd yw Morgan Dowdal (nhw). Maent yn defnyddio’r ffigwr dynol fel ffordd o archwilio themâu bod yn cwiar, yn ferchetaidd, gwrthrycholiad, agosatrwydd a dismorffia. Mae’r ffigyrau a ddarlunnir drwy eu gwaith yn amrywio o’r hyn sy’n hyfryd o aflunaidd i ddathliadau mwy chwareus ac esboniadol o’r corff noeth.
Ren Wolfe
Mae fy arfer yn ddathliad ac yn archwiliad o chwarae dychmygus. Drwy fy ngwaith rwy’n cloddio atgofion plentyndod i archwilio’n perthynas â’r hunan a’r absẃrd. Mae’r gwaith yn gweithredu nid yn unig fel darnau ar wahân mewn sgwrs â thema ganolog, ond fel byd o gymeriadau a straeon cysylltiedig sy’n ehangu’n gyson ac sydd mewn modd herfeiddiol, yn ymwrthod ag elitaeth o blaid hiwmor a chalon.
Jane Campbell
Jane Campbell: Enillydd y Wobr Barddoniaeth Goffa Geoff Stevens, cyhoeddwyd ei chasgliad cyntaf, Slowly as Clouds, gan Indigo Dreams. www.indigodreamspublishing.com/jane-campbell Enillodd Jane hefyd Wobr Ysgrifennu Creadigol Celfyddydau Anabledd Cymru yn 2022.
Mae gwaith Jane wedi ymddangos mewn Ink Sweat and Tears, The Dawntreader, One Hand Clapping, Black Bough, The Plumwood Mountain Journal (Auz) a Bloody Amazing (antholeg gorau Saboteur ar gyfer 2021). Ymddangosodd ei cherdd, The Gardener, ar raglen BBC Wales Giants in the Sky.
Alisha Ahmed
Wedi ei geni yn yr Eidal, ond o dreftadaeth Eifftaidd, mae Alisha Ahmed [hi/nhw] yn ciwar, dew, anneuaidd, hil gymysg, niwroamrywiol, millennial. Yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae eu gweithrediaeth yn ymestyn o drefnu codwyr arian i gefnogi BLM, Morforynion, a Ffoaduriaid i aelod gweithgar o Glitter Cymru lle maent yn awr yn un o’r Swyddogion Hyffordd ac Addysg ar bob Mater Rhyng-gysylltiol.
Luke Blaidd
Mae fy enw yw Luke Blaidd ac rydw i’n ysgrifennwr ac yn gelfwr sy’n byw yn Aberystwyth. Trwy fy nghelfyddyd, rydw i’n archwilio fy nghwiarder, anableddau a Chymreictod – a’r berthynas rhyngddynt. Rydw i’n siarad Cymraeg fel ail iaith ac ar hyn o bryd rydw i’n ysgrifennu geiriadur Cymraeg-Saesneg LHDTC+.
Skye Kember
Nod Skye yw meithrin perthynas ddwyochrog â’r ddaear mewn cymuned. Cynnal lle ar gyfer sawl ffordd o wybod, datod systemau deuaidd ac creu ecoleg cwiar. Fe’u tynnir at decstilau a creu printiau, gan archwilio inciau botanegol a llifynnau gyda’r deunyddiau y maent yn eu defnyddio wrth wraidd eu gwaith, yn ymwybodol i ailddefnyddio, fforio cynaliadwy, tyfu ffibrau, a symud i ffwrdd o brynwriaeth dorfol trwy rannu crefftau araf.
Kamila Krol
Mae Kamila yn ddarlunydd ac yn wneuthurwr comics Pwyleg cwiar sy’n gweithio yng Nghaerdydd. Caiff ei delweddaeth chwareus ei hysbrydoli’n aml gan freuddwydion a llên gwerin ac mae llawer o’i gwaith yn canolbwyntio ar adfywio ac ailddychmygu elfennau o’i threftadaeth Slafig.
Hi yw awdur y nofel graffig arobryn “Rusalka: Whispers of the Forest” (Strangers
Publishing) ac mae hi wedi creu gwaith celf a straeon comig byr i gleientiaid fel
Discord Comics, cylchgrawn Beneficial Shock, Third Bear Press, Lucent Dreaming ac Afterlight Comics.