Dywedwyd mai ychydig iawn o gyflogwyr sy’n ystyried niwroamrywiaeth yn eu harferion recriwtio, er bod hyd at 1 o bob 4 o bobl yn y DU yn niwrowahanol.
Mae oriel elysium wedi gweithio’n gyson gydag artistiaid niwrowahanol trwy gydol ei hanes ac mae ei hun yn sefydliad sy’n cael ei arwain gan bobl niwrowahanol. Er bod llawer o artistiaid yn niwrowahanol, neu’n hunan-ddiagnosio felly, mae diffyg cyfleoedd cyflogaeth a chymorth i artistiaid niwrowahanol yn y diwydiannau creadigol o hyd.
O ganlyniad, mae oriel elysium a’i phartneriaid Canolfan Celfyddydau Taliesin, Shine Cymru ac ASDES wedi sefydlu’r prosiect Rhwydweithiau Niwrowahanol Creadigol gyda’r nod o hwyluso cyfres o weithdai a gweithgareddau rhwydweithio i gyfranogwyr niwrowahanol ddatblygu eu prosiectau creadigol eu hunain a sgiliau newydd.
Mae oriel elysium yn chwilio am 5 artist niwrowahanol a/ neu awtistig 18-25 oed o Abertawe sy’n dymuno cael profiad o gynorthwyo a chynnal gweithdai a digwyddiadau. Byddwn yn darparu mentora 1-2-1 a llawer o gyfleoedd hyfforddi gwych, yn ogystal â phrofiad gweithdy â thâl.
I ddechrau byddwn yn cynnal cyfres o sesiynau blasu gydag artistiaid niwrowahanol yn cynorthwyo arweinwyr gweithdai elysium a Taliesin mewn gwneud ffilmiau, clai ac animeiddio, cerddoriaeth, drama, peintio â chwistrell, peintio a gwneud gwisgoedd. Bydd y rhain wedyn yn cael eu dilyn gan gyfres o weithdai/ gweithgareddau dan arweiniad yr artistiaid niwrowahanol gyda chymorth artistiaid elysium a Taliesin.
Os yw hyn yn swnio’n ddiddorol i chi, cysylltwch â Jonathan Powell ar jonathan@elysiumgallery.com
Meini Prawf Cymhwyster:
Er mwyn cymryd rhan yn y rhaglen hon, rhaid i chi fod rhwng 18-25 oed ac yn bodloni’r meini prawf canlynol:
a) Bod yn breswylydd yn Abertawe neu Sir Abertawe
b) Wedi’i ddiagnosio neu wedi’i hunan-ddiagnosio fel niwrowahanol
c) Awydd i ymwneud â’r diwydiannau creadigol
Dyddiad Cau: 15/09/2023