Gwelwch yr adran Arddangosfeydd a Digwyddiadau am weithgareddau
addysg ac allgymorth.
I gael mwy o wybodaeth ar unrhywbeth uchod, e-bostiwch:
info@elysiumgallery.com
Teledu oriel elysium
Gwyliwch sianel YouTube swyddogol oriel elysium i gael cyfweliadau gydag artistiaid
a rhagolygon o arddangosfeydd. Mwynhewch recordiadau byw o sgyrsiau artist, digwyddiadau diwylliannol, yn ogystal â gweithdai, cerddoriaeth fyw a chomedi.
Peidiwch ag anghofio pwyso’r botwm SUBSCRIBE wrth wirio i mewn.
Addysg
Mae gweithgareddau addysg Oriel elysium yn rhaglen ryngweithiol a dychmygus sy’n esblygu’n gyson ar gyfer plant, oedolion, grwpiau celfyddydau a chymunedol. Rydyn ni yma i bawb ac yn ymdrin â phob ffurf celf ac oedran ac yn gweithio ochr yn ochr â mudiadau celf, hanes ac addysgiadol eraill yn Abertawe.
Mae’r rhaglen addysg yn dod â llu o raglenni ar gyfer plant ac oedolion y gellir eu cyrchu am ddim ac sy’n cefnogi dysgu, mynediad a chwarae creadigol. Rydym yn cynnal rhaglenni yn yr Oriel ymhlith yr arddangosfeydd ac rydym hefyd yn datblygu gofod gweithdy a chymunedol arbenigol. Rydyn ni eisiau creu lle sy’n annog llanast, arbrofi a chwarae yn ogystal â gweithredu fel canolfan gymorth a chyngor i artistiaid.
Oherwydd y pandemig COVID-19 parhaus a’r cyfyngiadau cymdeithasol sydd ar waith, byddwn yn cynnal dosbarthiadau aml-sesiynol, felly cadwch lygad ar y rhestr digwyddiadau am yr hyn yr ydym wedi’i drefnu a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Allgymorth
Gallwn ymweld â’ch ardal neu ysgol!
Mae ein Oriel Stiwdio Symudol yn ein galluogi i gyrraedd cynulleidfa ehangach. Gallwn estyn allan i ganolfannau dydd, cartrefi gofal, ysgolion a’r cyhoedd.
Gellir trawsnewid ein cerbyd amlbwrpas yn stiwdio ac oriel ar leoliad. Gwyliwch amdanom ar leoliad yng nghanol Abertawe neu cysylltwch â ni a gallwn drefnu ymweliad.
Rydym bob amser yn croesawu ysgolion a byddwn yn hapus yn rhoi taith o amgylch yr orielau a’r stiwdios artistiaid. Archebwch ymlaen llaw.
Rydym hefyd wedi bod yn gweithio gydag ysgolion lleol yn Abertawe ar gyfer y prosiect Cydweithrediad Creadigol diweddar. Am fwy o wybodaeth cliciwch yma
Dosbarthiadau
Mae’r Oriel yn cynnal dosbarthiadau a gweithdai i oedolion yn rheolaidd. Mae dosbarthiadau diweddar yn cynnwys arlunio arbrofol, arlunio bywyd, a ffotograffiaeth. Mae’r digwyddiadau hyn yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a chysylltu â’ch hunan greadigol. Ychwanegir digwyddiadau a gweithgareddau newydd bob amser.
Sgyrsiau Oriel
Sgyrsiau Celf rheolaidd ar-lein ac ar y safle gan artistiaid a churaduron. Wastad yn addysgiadol ac yn ddiddorol. Wastad yn rhad ac am ddim.