Rhwydwaith Stiwdio Artistiaid
SAMPLELYSIUM Cork + Abertawe
Rhagolwg: Dydd Gwener 2 Chwefror 7yh
Arddangosfa’n parhau tan Ddydd Sadwrn 16 Mawrth
Ar agor Dydd Mercher – Sadwrn 11yb – 7yh
Mae Rhwydwaith Stiwdio Artistiaid (RSA) (Artist Studio Network/ ASN) yn gyfres o arddangosfeydd a digwyddiadau rhwydweithio sy’n dod â rhwydweithiau Stiwdio Artistiaid at ei gilydd gyda’r nod o greu llwyfan ar gyfer rhannu sgiliau, cychwyn sgyrsiau creadigol a meithrin prosiectau newydd.
Gan ddechrau yn 2018 gan gysylltu stiwdios elysium â rhwydweithiau artistiaid yng Ngogledd Cymru, bydd yr arddangosfa RSA ddiweddaraf hon yn arddangos gwaith artistiaid o stiwdios Elysium, Abertawe a Sample-Studios yng Nghorc.
Mae SAMPLELYSIUM yn nodi 30 mlynedd ers gefeillio Abertawe â Corc ac mae blwyddyn o sgyrsiau a thrafodaethau ar-lein arfaethedig rhwng artistiaid o’r ddwy ddinas yn cychwyn. Bydd yr arddangosfa’n cynnwys darluniau o stiwdios artistiaid yn ogystal ag arddangos gwaith dros 70 o artistiaid o’r ddwy gymuned greadigol.
Mae’r Rhwydwaith Stiwdio Artistiaid yn cyfrannu at rannu arbenigedd, ymchwil a syniadau ar draws artistiaid ac orielau sy’n cael eu cadw ar wahân yn ddaearyddol.
Mae Sample-Studios yn un o stiwdios artistiaid mwyaf Iwerddon, wedi’i lleoli yn Churchfield, Dinas Corc. Gydag aelodaeth o 110+ o artistiaid gweledol ac ymarferwyr celfyddydol, mae Sample Studios yn cefnogi ac yn hyrwyddo ymarferwyr y celfyddydau sefydledig a sy’n dod i’r amlwg o Gorc a thu hwnt, trwy stiwdios fforddiadwy a redir gan artistiaid, i gynnal a datblygu mentrau lleol, rhanbarthol a rhyngwladol ac i hyrwyddo ymchwil a phrosiectau allgymorth cymunedol.
Mae Oriel Elysium yn ddarparwr celfyddydau a stiwdios cyfoes sy’n meithrin addysg ac ymgysylltiad rhwng artistiaid a chymunedau i greu newid cymdeithasol cadarnhaol. Wedi’i sefydlu yn 2007, crëwyd Elysium i gefnogi a hyrwyddo’r celfyddydau yn Abertawe a thu hwnt gyda phwyslais ar gydweithio a chymuned.
Elysium yw darparwr stiwdios mwyaf Cymru sy’n gwasanaethu fel deorydd i dros 100 o artistiaid o Abertawe gan ddarparu mannau gwaith, cyfleoedd ymgysylltu cymunedol, a datblygiad proffesiynol. Mae Elysium yn sefydliad a arweinir gan artistiaid sy’n annog balchder a chyfranogiad yn y celfyddydau gweledol a pherfformio lleol mewn amgylchedd sy’n hyrwyddo addysg, cyfranogiad, arbrofi, rhyddid, a gwerthfawrogiad ym mhob ymarfer creadigol.